Beta Mae hwn yn wasanaeth newydd - bydd eich adborth (agor mewn ffenestr newydd) yn ein helpu ni i'w wella.

Cofnodi ple ar gyfer trosedd

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i bledio’n euog neu’n ddieuog ar-lein.

Rhaid i chi fod naill ai:

  • y sawl sydd wedi'i gyhuddo o gyflawni'r drosedd (nid rhywun arall sy'n helpu allan)
  • ysgrifennydd, cyfarwyddwr neu gyfreithiwr y cwmni sydd wedi'i gyhuddo o gyflawni'r drosedd

Cyn i chi ddechrau

Bydd arnoch angen yr wybodaeth a anfonwyd atoch chi drwy’r post.

Os ydych yn pledio dros eich hun (nid ar ran cwmni)

Bydd arnoch angen:

  • manylion incwm a budd-daliadau
  • eich Rhif Yswiriant Gwladol
  • eich trwydded yrru os oes gennych un (troseddau traffig yn unig)

Os ydych am bledio'n ddieuog

Bydd arnoch angen:

  • enwau a chyfeiriadau unrhyw dystion yr ydych am ddod â nhw i'ch treial
  • unrhyw ddyddiadau na allwch ddod i'r llys

Os oes gennych gwestiynau am eich achos neu os oes arnoch angen help i bledio ar-lein, gallwch gysylltu â ni.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).