Polisi preifatrwydd
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn egluro pam ein bod yn casglu eich data personol a sut byddwn yn ei ddefnyddio. Mae hefyd yn esbonio eich hawliau a sut i’w rhoi ar waith.
Pwy sy’n rheoli’r gwasanaeth hwn
Rheolir y gwasanaeth hwn gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (GLlTEM), sef un o asiantaethau gwethredol y Weinyddiaeth Cyfiawnder (MoJ).
MoJ yw’r rheolydd data at ddibenion diogelu data. Mae siartr gwybodaeth bersonol MoJ yn egluro sut mae MoJ yn prosesu data personol
Fel rhan o MoJ, mae GLlTEM yn gyfrifol am benderfynu sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio ac mae’n gyfrifol am ddiogelu’r data personol rydych yn ei ddarparu.
Ceir rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn yn telerau ac amodau.
Pam ydym ni’n casglu eich gwybodaeth bersonol?
Rydym yn casglu eich data personol i:
- alluogi prosesu eich ple
- pennu amser priodol i dalu os bydd dirwy yn cael ei rhoi
- gweinyddu cyfiawnder
- bodloni gofynion cyfreithiol
- gwneud gwelliannau i’r gwasanaeth hwn
Mae ein staff yn defnyddio eich data personol i fodloni gofynion cyfreithiol ac i weinyddu cyfiawnder. Maent yn gweithio yn y DU ac mae’ch data yn cael ei storio yn y DU.
Mathau o ddata personol rydym yn eu prosesu
Mae’r data personol rydym yn ei gasglu yn cynnwys:
- eich enw, eich cyfeiriad a’ch manylion cyswllt
- eich cyfeiriad e-bost
- eich rhif ffôn
- eich cyfeiriad
- gwybodaeth bersonol arall rydych yn ei darparu wrth gofnodi’ch ple
- Rhif Yswiriant Gwladol
- eich gwybodaeth ariannol sy’n ymwneud â’ch modd ariannol
- eich Rhif Gyrrwr
Defnyddio eich data
Fel rhan o’r broses pledio ar-lein bydd gofyn ichi ddarparu eich cyfeiriad e-bost. Mae hyn yn ein galluogi i anfon cadarnhad atoch ein bod wedi cael eich ple.
Efallai byddwn yn gofyn am eich caniatâd i ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost i anfon negeseuon e-bost atoch trwy’r system GOV.UK Notify. Mae’r system hon yn prosesu negeseuon e-bost o fewn Ardal Economaidd Ewrop hyd nes y pwynt lle mae’r negeseuon e-bost yn cael eu trosglwyddo i’r darparwr e-bost rydych chi’n ei defnyddio.
Rydym yn defnyddio cwcis i gasglu data sy’n rhoi gwybodaeth i ni am sut rydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth
Rydym ond yn prosesu data personol sy’n berthnasol ar gyfer bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol ac er mwyn gweinyddu cyfiawnder.
Mae’n rhaid i ni brosesu data personol at ddibenion gweinyddu cyfiawnder a chefnogi’r farnwriaeth annibynnol i gynnal y gyfraith a darparu cyfiawnder yn ddiduedd, yn ddiymdroi ac yn effeithlon.
Storio eich data
Rydym yn storio eich data ar weinyddion diogel. Mae yna reolau llym o ran sut a pham y gellir cael mynediad at eich data. Trwy gyflwyno’ch data personol, rydych yn cytuno i hyn.
Rhannu eich data
Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol a anfonir atom yn cael ei rhannu â’r erlynydd, ond mae’r holl wybodaeth yn cael ei rhannu â’r llys a gellir ei defnyddio at ddibenion gorfodi unrhyw ddirwy ariannol a roddir.
Os byddwch yn cysylltu â ni ac yn gofyn am gymorth gyda gwasanaeth rydych yn ei ddefnyddio, gall eich data personol gael ei rannu’r gyda Good Things Foundation. Dyma gwmni sy’n gweithio mewn partneriaeth â ni i ddarparu cymorth wyneb yn wyneb.
Mewn rhai amgylchiadau gallwn rannu eich data, er enghraifft i atal a chanfod troseddau neu gynhyrchu ystadegau dienw.
Rydym ni’n defnyddio Google Analytics i gasglu ystadegau am ein gwefan. Mae’r data dienw hwn am y defnydd o’r wefan yn cael ei rannu gyda Google.
Fel gyda phob achos troseddol, bydd peth gwybodaeth ar gael i’r cyfryngau a’r cyhoedd ar gais, oni bai bod cyfyngiad adrodd neu bod y llys yn penderfynu fel arall. Os ydych eisiau gwybod sut y defnyddir y data rydych wedi’i ddarparu, ewch i: https://www.justice.gov.uk/courts/procedure-rules/criminal/forms
Eich hawliau
Gallwch ofyn:
- i weld y data personol amdanoch rydym yn ei gadw
- i’r data personol gael ei gywiro
- i’r data personol gael ei symud neu ei ddileu (bydd hyn yn ddibynnol ar p’un a fydd angen yr wybodaeth er mwyn gweinyddu cyfiawnder)
- i gyfyngu ar y mynediad at y data personol (er enghraifft, gallwch ofyn i’r data gael ei storio am gyfnod hirach a pheidio â chael ei ddileu’n awtomatig)
Os ydych eisiau gweld y data personol amdanoch rydym yn ei gadw, gallwch wneud cais gwrthrych am wybodaeth (https://www.gov.uk/government/organisations/ministry-of-justice/about/personal-information-charter). Mae’r cais hwn yn mynd i’r rheolydd data, sef MoJ.
NEU
Ysgrifennwch atom: Tîm Datgelu Blwch Post 10.38, 102 Petty France, Llundain, SW1H 9AJ
Gallwch ofyn am ragor o wybodaeth am:
- gytundebau sydd gennym gyda sefydliadau eraill ar gyfer rhannu gwybodaeth
- pryd rydym ni’n cael anfon eich gwybodaeth bersonol ymlaen heb roi gwybod ichi
- ein cyfarwyddiadau i staff ar sut i gasglu, defnyddio neu ddileu eich gwybodaeth bersonol
- sut rydym yn sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym yn gywir ac yn gyfredol
Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data MoJ trwy:
- ysgrifennu atom: Blwch Post 10.38, 102 Petty France, Llundain, SW1H 9AJ
- anfon e-bost: data.compliance@justice.gov.uk
Sut i gwyno
Gweler ein drefn gwyno os ydych eisiau gweud cwyn am y ffordd rydym wedi trin eich data personol
Ysgrifennwch i: Blwch Post 10.38, 102 Petty France, Llundain, SW1H 9AJ
E-bost data.compliance@justice.gov.uk
Gallwch hefyd gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os nad ydych yn fodlon â’n ymateb neu rydych yn credu nid ydym yn prosesu eich data yn gyfreithlon.