Cofnodi ple ar gyfer trosedd
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i bledio’n euog neu’n ddieuog ar-lein.
Mae’n rhaid ichi naill ai fod:
- yr unigolyn sydd wedi’i gyhuddo o’r trosedd
- cynrychiolydd swyddogol ar gyfer y cwmni sydd wedi’i gyhuddo o’r trosedd
Cyn ichi ddechrau
I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd arnoch angen:
Ar gyfer pob ple
- yr Hysbysiad Gweithdrefn Un Ynad a anfonwyd atoch
- eich Rhif Yswiriant Gwladol
- manylion eich incwm, eich budd-daliadau a’ch gwariant
- manylion eich cyflogwr
- eich cyfeiriad e-bost
Gwybodaeth ychwanegol sydd ei hangen ar gyfer ple dieuog
- enw, cyfeiriad, oedran a dyddiad geni eich tyst
- unrhyw ddyddiadau pan na fyddwch yn gallu bod yn bresennol yn y llys