Beta Mae hwn yn wasanaeth newydd - bydd eich adborth (agor mewn ffenestr newydd) yn ein helpu ni i'w wella.

Telerau ac Amodau

Mae’r dudalen hon ac unrhyw ddolenni i dudalennau eraill sydd arni yn esbonio telerau defnydd Platfform Cyffredin Cofnodi Ple y llywodraeth. Rhaid ichi gytuno i’r telerau hyn i allu defnyddio’r wefan.

Pwy ydym ni

Y Platfform Cyffredin yw gwasanaeth digidol a reolir gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, a fydd yn cael ei gyfeirio ato fel ’ni’ o hyn ymlaen.

Defnydio’r wefan Cofnodi Ple

Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r wefan hon at ddibenion cyfreithiol yn unig. Ni ddylech ei defnyddio mewn ffordd sy’n tresbasu ar hawliau rhywun arall neu sy’n cyfyngu ar, neu’n atal unrhyw un arall rhag ddefnyddio’r wefan hon.

Rydym yn diweddaru’r wefan hon yn gyson. Gallwn newid neu ddileu unrhyw gynnwys ar unrhyw adeg heb rybudd.

Cysylltiadau o’r wefan hon

Mae’r wefan Cofnodi Ple yn gysylltiedig â gwefannau eraill sy’n cael eu rheoli gan adrannau neu asiantaethau eraill y llywodraeth, darparwyr gwasanaeth neu sefydliadau eraill. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau hyn.

Nid ydym yn gyfrifol am:

  • diogelu unrhyw ddata rydych yn ei roi i’r gwefannau hyn
  • unrhyw golled neu niwed a all ddeillio o’ch defnydd o’r gwefannau hyn, neu unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â hwy

Rydych yn cytuno i’n rhyddhau ni o unrhyw hawliau neu anghydfodau a all godi o ganlyniad i ddefnyddio’r gwefannau hyn.

Dylech ddarllen yr holl delerau ac amodau, polisiau preifatrwydd a thrwyddedau defnyddwyr sy’n berthasol i’r gwefannau hyn cyn ichi eu defnyddio.

Ymwrthodiad

Er ein bod yn ymdrechu i gadw’r wefan yn gyfredol, nid ydym yn darparu unrhyw warantau, amodau neu sicrwydd y bydd yr wybodaeth:

  • yn gyfredol
  • yn ddiogel
  • yn gywir
  • yn gyflawn
  • heb unrhyw fygiau neu firysau

Nid ydym yn cyhoeddi cyngor ar y wefan Cofnodi Ple. Dylech geisio cyngor proffesiynol neu gyngor arbenigol cyn gwneud unrhyw beth yn seiliedig ar gynnwys y wefan.

Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu niwed a all ddeillio o ddefnyddio’r wefan Cofnodi Ple. Mae hyn yn cynnwys:

  • unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol
  • unrhyw golled neu niwed a achosir gan gamweddau sifil (gan gynnwys esgeulustod), torri amodau contract, neu fel arall
  • y defnydd a wneir o’r wefan Cofnodi Ple ac unrhyw wefannau cysylltiedig
  • methu â defnyddio’r wefan Cofnodi Ple ac unrhyw wefannau cysylltiedig

Mae’n berthnasol os oedd modd rhagweld y colled neu’r niwed, ei fod wedi codi yn ystod y drefn arferol neu eich bod wedi ein cynghori y gall ddigwydd.

Mae hyn yn cynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i) golli eich:

  • incwm neu refeniw
  • cyflog, budd-daliadau neu daliadau eraill
  • busnes
  • elw neu gontractau
  • cyfleoedd
  • cynilion a ragwelir
  • data
  • enw da
  • eiddo diriaethol
  • eiddo anniriaethol, gan gynnwys colled neu niwed i ddata neu unrhyw system gyfrifiadurol
  • gwastraff o amser rheolwr neu weithiwr swyddfa

Gallwn dal fod yn atebol am:

  • farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o’n hesgeulustod ni
  • camliwio twyllodrus
  • unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu dan y gyfraith berthnasol

Ceisiadau i ddileu cynnwys

Gallwch wneud cais i ddileu cynnwys o’r wefan Cofnodi Ple. Byddwn ond yn gwneud hyn mewn achosion penodol, e.e. os yw’n torri ddeddfwriaeth hawlfreintiau, yn cynnwys data personol sensitif, neu deunydd gellir ei ystyried yn anweddus neu’n ddifriol.

Cysylltwch â ni i wneud cais i’r cynnwys gael ei ddileu. Bydd rhaid ichi anfon cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys ac egluro pam rydych yn meddwl y dylai’r cynnwys gael ei ddileu. Byddwn yn ymateb ichi ac yn rhoi gwybod p’un a fyddwn yn ei ddileu ai peidio.

Byddwn yn dileu cynnwys yn ôl ein disgresiwn ni, ar ôl trafod â’r adran neu’r asiantaeth sy’n gyfrifol amdano. Gallwch dal wneud cais am yr wybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Ddeddf Diogelu Data.

Gwybodaeth amdanoch chi ac eich ymweliadau â’r wefan Cofnodi Ple

Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi yn unol â’n polisi preifatrwydd ac ein polisi cwcis. Trwy ddefnyddio’r wefan Cofnodi Ple, rydych yn cytuno i ni gasglu’r wybodaeth hon ac yn cadarnhau bod unrhyw ddata a roddir gennych yn gywir.

Diogelu rhag firysau

Rydym yn ymdrechu i wirio a phrofi’r wefan Cofnodi Ple am firysau ym mhob cam o’r broses gynhyrchu. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad yw’r ffordd byddwch yn defnyddio’r wefan hon yn eich gadael yn agored i’r risg o firysau, cod cyfrifiadurol maleisus, neu ffurfiau eraill o ymyrraeth a all niwedio eich system gyfrifiadurol.

Nid ydym yn atebol am ddata sy’n mynd ar goll, yn cael ei amharu arno neu’n cael ei ddifrodi, nac am unrhyw ddifrod i system eich cyfrifiadur, wrth ichi ddefnyddio’r wefan hon.

Firysau, hacio a throseddau eraill

Wrth ddefnyddio’r wefan Cofnodi Ple, ni ddylech gyflwyno’n fwriadol firysau, cnafon, mwydod, bomiau rhesymeg neu unrhyw ddeunydd arall maleisus neu niweidiol i dechnoleg.

Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod at y wefan Cofnodi Ple, y gweinydd lle caiff ei storio nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’r wefan.

Ni ddylech ymosod ar y wefan Cofnodi Ple mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn cynnwys ymosodiadau gwrthod gwasanaeth.

Byddwn yn adrodd am unrhyw ymosodiadau neu ymgais i gael mynediad heb awdurdod i’r wefan Cofnodi Ple i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol a byddwn yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi gyda hwy.

Y gyfraith lywodraethol

Mae’r telerau ac amodau hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.

Bydd unrhyw anghydfod sydd gennych sy’n ymwneud â’r telerau ac amodau hyn, neu’ch defnydd o’r wefan Cofnodi Ple (p’un a yw dan gytundeb neu beidio), yn destun awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr.

Cyffredinol

Gall fod hysybysiadau cyfreithiol eraill ar y wefan Cofnodi Ple sy’n ymwneud â sut rydych yn defnyddio’r wefan.

Ni fyddwn yn atebol os byddwn yn methu â chydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth.

Efallai byddwn yn penderfynu peidio ymarfer neu orfodi unrhyw hawl sydd gennym dan y telerau ac amodau hyn. Gallwn wastad penderfynu arfer neu orfodi’r hawl hwnnw maes o law.

Ni fyddai gwneud hyn unwaith yn golygu ein bod yn ildio’r hawl ar unrhyw achlysur arall.

Os ystyrir fod unrhyw un o’r telerau ac amodau hyn yn annilys, yn anghyfreithlon neu ni ellir eu gorfodi, bydd gweddill y telerau ac amodau yn parhau i fod yn berthnasol.

Newidiadau i’r telerau ac amodau hyn

Cyfeiriwch at y telerau ac amodau hyn yn rheolaidd. Gallwn eu diweddaru ar unrhyw adeg heb rybudd.

Byddwch yn cytuno i unrhyw newidiadau os byddwch yn parhau i ddefnyddio’r wefan Cofnodi Ple ar ôl i’r telerau ac amodau gael eu diweddaru.