Beta Mae hwn yn wasanaeth newydd - bydd eich adborth (agor mewn ffenestr newydd) yn ein helpu ni i'w wella.

Datganiad hygyrchedd i bleidio ar-lein

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r wefan sydd ar gael yn https://onlineplea.cjscp.org.uk/onlineplea/start.xhtml?locale=cy

???Accessibility_statement_paragraph2???

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM). Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl ag sy’n bosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo'r dudalen hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrîn
  • mynd drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (yn cynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet (https://mcmw.abilitynet.org.uk/) (agor mewn tudalen newydd) gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w ddefnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA Fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We . Nid oes unrhyw faterion hygyrchedd hysbys yn y gwasanaeth hwn.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille anfonwch e-bost at:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydyn ni bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch e-bost at:

Y weithdrefn orfodi

Y Comisiwn ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Gyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Ffonau Symudol) (Rhif 2) ('y rheoliadau hygyrchedd') 2018. Os nad ydych yn fodlon ar yr ymateb i'ch cwyn,cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) (https://www.equalityadvisoryservice.com/)

Cysylltu â ni dros y ffôn neu drwy ymweld â ni’n bersonol

Darllenwch y manylion cyswllt uchod i gael gwybod sut mae cysylltu â ni.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Rhaglen Waith Troseddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Cyrff y Sector Gyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â safon AA Fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We .

Beth yr ydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Cynhaliwyd ein harchwiliad annibynnol blaenorol gan ddefnyddio safonau WCAG 2.0. Ers hynny, rydyn ni wedi cynnal profion hygyrchedd mewnol yn unol â safonau WCAG 2.1, ac rydyn ni’n bwriadu integreiddio profion hygyrchedd awtomataidd (PALLY a phrofion tebyg) yn ein datganiadau cod. Byddwn yn comisiynu archwiliad hygyrchedd allanol yn erbyn WCAG 2.1 cyn ei adolygiad nesaf yng ngwanwyn 2023.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ym mis Ebrill 2019. Cafodd ei adolygu diwethaf ar 26 Mai 2022.

Y tro diwethaf i ni brofi’r wefan hon yn erbyn WCAG 2.1 oedd 7 Ebrill 2022. Cynhaliwyd y prawf gan ein tîm datblygu mewnol. Fe wnaethon ni brofi pob tudalen a llwybr ar gyfer y gwasanaeth.

Yn flaenorol, cafodd y gwasanaeth ei archwilio yn erbyn WCAG 2.0 yn allanol, a hynny gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC) ym mis Chwefror a mis Mai 2018.